Mae Prosiect Digidol Bronglais yn cael ei gynnig gan Iechyd a Gofal Gwledig Cymru, a’i nôd yw gwella profiadau ymwelwyr a chleifion yn Ysbyty Gyffredinol Bronglais, drwy ddefnyddio technoleg digidol. Mae’r prosiect yn ceisio darparu gwybodaeth cyflym am Fronglais i gleifion, ymwelwyr, staff a’r cyhoedd, a fydd yn cynnwys:
- Mapiau o’r wardiau a’i chyfleusterau
- Amserau ymweliadau
- Parcio a chyfeiriadau
- Cysylltiadau cludiant
- Gwasanaeth arbenigol
- Gwybodaeth am staff ac arbenigedd clinigol
- Cyfleusterau lluniaeth
Bydd y wybodaeth yn cael ei ddarparu drwy wefan rhyngweithiol, ‘Ap’ ar gyfer dyfeisiau symudol a trwy bwyntiau digidol o fewn yr ysbyty, er enghraifft, yn y brif dderbynfa a mynediad D&A. Trwy ddefnyddio technoleg digidol, bydd cleifion a’r ymwelwyr yn medru lleoli adrannau gwahanol yr ysybyt a darganfod gwybodaeth yn rhwydd – a fydd yn gwenud ymweliad i’r ysbyty yn llai o staren!
Ar hyn o bryd, rydym yn ceisio cael barn pobl ar draws Canolbarth Cymru ynlgŷn â Phrosiect Digidol Arfaethedig Bronglais, a byddem yn hoff iawn o glywed oddi wrthych!
Er mwyn cael dweud eich dweud, plîs cymerwch ran yn ein holiadur https://conta.cc/2JDqOV8
Y dyddiad cau: 21ain Mehefin 2019