Am IGGC

Ym mis Ionawr 2014, comisiynodd Llywodraeth Cymru Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru i archwilio’r opsiynau ar gyfer darparu gwasanaeth gofal iechyd cynaliadwy o safon uchel yn y Canolbarth. Roedd gwahanol anghenion cymunedau gwledig a’r heriau trawsffiniol yn y rhanbarth yn awgrymu bod angen adolygu’r systemau iechyd a gofal cymdeithasol presennol. Ym mis Hydref 2014, cyhoeddwyd Astudiaeth Gofal Iechyd Canolbarth Cymru, a gynhaliwyd gan yr Athro Marcus Longley. Roedd yn gwneud deuddeg argymhelliad.

Y deuddegfed argymhelliad, ac argymhelliad olaf yr astudiaeth oedd y dylai’r tri Bwrdd Iechyd sy’n gweithio yn y Canolbarth, gan weithio law yn llaw â phrifysgolion lleol a phartneriaid eraill, ddatblygu a chefnogi “canolfan ragoriaeth mewn gofal iechyd gwledig”. Yr argymhelliad ar gyfer y ganolfan hon oedd y dylai ganolbwyntio ar “ymchwil, datblygu a lledaenu tystiolaeth ym maes ymchwil i’r gwasanaeth iechyd sy’n mynd i’r afael â sialensau penodol Canolbarth Cymru”. Nodwyd y byddai gan ganolfan o’r fath gryn botensial i gynnal gwaith o bwysigrwydd rhyngwladol.

Felly cafodd y Ganolfan Rhagoriaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gwledig (CfERH) ei lansio’n ffurfiol gan yr Athro Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ar 24 Mawrth 2016. Ailenwyd y ganolfan yn “Iechyd a Gofal Gwledig Cymru” ym mis Mawrth 2017.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cartref Iechyd a Gofal Gwledig Cymru ar hyn o bryd, gyda swyddfeydd yn Aberystwyth. Anna Prytherch yw’r Pennaeth IGGC, Michelle SymesMari LewisLottee Deak  yw’r Swyddogion Ymchwil a Datblygu. Mae Becky Gardner yw'r Ymchwilwydd Profiad Canser Gwledig MacMillan.

Mae Bwrdd Rheoli’r ganolfan yn cael ei gadeirio gan Peter Skitt.