Un o brif amcanion IGGC yw i fod yn bwynt ffocws ar gyfer datblygu a chasglu ymchwil o safon uchel yn ymwneud â iechyd a llesiant gwledig. Rydym yn annog unrhyw unigolyn neu fudiad sydd â ymchwil, neu sydd yn bwriadu cynnal ymchwil sydd yn ymwneud â iechyd a llesiant gwledig i gysylltu â ni trwy ebost neu trwy ddefnyddio y ffurflen gyswllt ar y wefan hon.
Mae amlinell o'n Prosiectau Ymchwil presennol ar gael ar y wefan hon, a bydd y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi pan byddent wedi eu cwblhau.
Os oes unrhyw syniadau gennych ynglyn â gweithgareddau ymchwil posibl, neu os oes gennych wybodaeth am unrhyw gyfleon am ariannu ymchwil posibl, gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda. Rydym yn annog cyd-weithio ar ein gweithgareddau ymchwil, a hoffen hefyd hyrwyddo ymchwil a gaiff ei gynnal a'i cyhoeddi gan eraill.