Prosiectau Ymchwil

Mae portffolio ymchwil Iechyd a Gofal Gwledig Cymru yn un organig a fydd yn newid gydag amser wrth i flychau ymchwil ac anghenion y sector ddod i’r amlwg.

Yn ogystal, bydd y wefan yn cynnwys storfa o gyhoeddiadau ymchwil ac erthyglau diddorol ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gwledig.

Prosiectau Ymchwil RHCW Cyfredol:

Gwerthusiad Macmillan o Brofiad Canser mewn Ardaloedd Gwledig (Gorffennaf 2023-Mehefin 2025)
Mae Iechyd a Gofal Gwledig Cymru yn ymgymryd â phrosiect a fydd yn archwilio profiadau pobl sy’n byw yng nghefn gwlad Canolbarth Cymru ac sydd wedi cael canser neu sy’n byw â chanser. Nod y gwerthusiad yw cynnwys barn a phrofiadau pobl sydd â chanser (neu a oedd â chanser yn flaenorol), eu teulu neu ofalwyr, a’r gweithwyr proffesiynol sy’n eu trin. Cesglir yr wybodaeth hon i’n helpu i wneud argymhellion o ran yr hyn a allai ac a ddylai fod ar waith i wella profiadau pobl sy’n byw â chanser yng nghefn gwlad Cymru. Y gobaith yw y bydd hyn yn helpu pobl sy’n byw yng Nghanolbarth Cymru i gael gwell canlyniadau o’u gofal.

Mae’r prosiect yn cynnwys pedwar prif gam:

Cam 1 (Adolygiad o Lenyddiaeth) – Mae adolygiad o lenyddiaeth o Gymru yn cael ei gynnal, a ddilynir gan gynllun cwmpasu i lywio canfyddiadau’r prosiect.

Cam 2 (Adolygiad Bwrdd Gwaith) – Bydd chwiliad bwrdd gwaith o’r gwasanaeth a ddarperir ar hyn o bryd i bobl â chanser yng Nghanolbarth Cymru yn cael ei gofnodi.

Cam 3 (trafodaethau un i un a grwpiau ffocws, astudiaethau achos) – Bydd yna sail ansoddol i’r ymchwil sylfaenol – gan ofyn am feddyliau, barn a phrofiadau poblogaeth Canolbarth Cymru.

Cam 4 (Adroddiad) – Bydd adroddiad terfynol o’r canfyddiadau, ynghyd ag argymhellion ar gyfer gwella profiad cleifion canser gwledig, yn cael ei lunio ym mis Mehefin 2025.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu os hoffech gyfrannu/gymryd rhan, neu os hoffech gael copi o’r adroddiad terfynol, cysylltwch â Becky Gardner, Ymchwilydd Profiad Canser Gwledig Macmillan, trwy e-bost yn Rebecca.gardner2@wales.nhs.uk neu dros y ffôn ar 07450 727567.

Mae’r prosiect hwn yn cael ei ddarparu gan Iechyd a Gofal Gwledig Cymru, a’i ariannu gan Gymorth Canser Macmillan.

Cymunedau Cynaliadwy
Am fwy o fanylion, cliciwch yma :

Adolygiad a chynllun gweithredu ar gyfer darpariaeth Meddygaeth Teulu / Gofal Sylfaenol yn y Canolbarth – manylion yn dilyn

Llwybrau Lles – manylion yn dilyn

Ysbytai Cymunedol – manylion yn dilyn

Prosectiau Ymchwil Blaenorol IGGC

Ar Dy Feic – manylion yn dilyn

Recriwtio a Chadw Gweithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Proffesiynol yng Nghymru Wledig
Ceisodd y prosiect ymchwil hwn:

  • Nodi bylchau sy’n bodoli ar hyn o bryd a bylchau a ragwelir yn y dyfodol wrth recriwtio a phenodi gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol mewn ardaloedd gwledig
  • Nodi rhaglenni enghreifftiol ar gyfer cynllunio anghenion y gweithlu a recriwtio ar lefel gymunedol, lefel sirol a lefel genedlaethol

Datblygu dogfen arfer gorau ar recriwtio a chadw gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol mewn ardaloedd gwledig

Addysg, Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus Gweithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Proffesiynol mewn Ardaloedd Gwledig
Bydd y maes ymchwil eang hwn yn ceisio:

  • Canfod cwmpas y ddarpariaeth addysg, hyfforddiant ac ymchwil gyfredol yng Nghymru fel sy’n berthnasol i iechyd a gofal cymdeithasol gwledig
  • Nodi’r sgiliau sydd eu hangen ar y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol i weithio’n effeithiol mewn ardaloedd gwledig
  • Canfod cwmpas darpariaeth sgiliau gyfredol gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol mewn ardaloedd gwledig
  • Canfod bylchau yn y ddarpariaeth sgiliau / gweithlu gyfredol a nodi hyfforddiant / camau gweithredu sydd eu hangen i gau’r bylchau

Ymchwilio i dueddiadau newydd ym maes datblygu’r gweithlu ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sy’n gweithio mewn ardaloedd gwledig

Datblygu dogfen arfer gorau ar addysg, hyfforddiant a DPP ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol sy’n gweithio mewn ardaloedd gwledig

Heriau’r Gweithlu Nyrsio yn Ardaloedd Gwledig Gwledydd Datblygedig
I rai darparwyr iechyd mewn gwledydd datblygedig, mae sicrhau gweithlu nyrsio digonol yn cael ei lesteirio gan y ddaearyddiaeth wledig, gyda phrinder staff cronig, ynghyd ag anawsterau recriwtio a chadw staff mewn ardaloedd gwledig, yn cynnig heriau sylweddol i’w gallu i sicrhau gofal o ansawdd i gleifion. Mae Iechyd a Gofal Gwledig Cymru yn cyd-ariannu myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth i gynnal ymchwil ar yr heriau gweithlu sy’n wynebu nyrsys mewn ardaloedd gwledig. Mae’r ymchwil wedi’i rhannu’n dri maes astudio:

Bydd astudiaeth 1 yn pennu a oes cysylltiad rhwng ble mae nyrsys yn gweithio a ble cawsant eu magu a ble gwnaethant eu hyfforddiant nyrsio.

Bydd astudiaeth 2 yn archwilio safbwyntiau ar y rhwystrau a’r ffactorau hwyluso sy’n wynebu nyrsio gwledig yn y Canolbarth.

Bydd astudiaeth 3 yn adeiladu ar ganfyddiadau blaenorol er mwyn datblygu dealltwriaeth ddyfnach o’r materion a nodwyd yn astudiaethau 1 a 2.

Bydd ymchwiliad i’r heriau recriwtio a chadw sy’n wynebu nyrsys yn ardaloedd gwledig y Canolbarth yn ychwanegu at y sail dystiolaeth i’r drafodaeth am ofal iechyd gwledig ac mae disgwyl y gallai canlyniadau’r astudiaeth hon ddylanwadu ar fodelau cyflenwi staff ar y llwyfan rhyngwladol.

Os ydych chi’n cynnal ymchwil, neu’n gwybod am ymchwil sydd eisoes wedi’i chynnal, a allai fod o ddiddordeb i’r ganolfan, cysylltwch ag Anna Prytherch, Rheolwr Prosiect RHCW.