Memorandwm Cyd-Ddealltwriaeth
Dosbarthwyd Memorandwm Cyd-Ddealltwriaeth (MCD) yn gynnar yn mis Medi 2016 a gadarnhawyd cytundeb o’r cyd-weithio rhwng pob partner a’r ymrwymiad i sefydliad IGGC (a enwir yn Ganolfan ar gyfer Rhagoriaeth yn Iechyd a Gofal Gwledig). Arwyddwyd y Memorandwm Cyd-Ddealltwriaeth gan y Prif Weithredwyr ac Is-Ganghellwyr o’r partneriaid sydd yn rhan o IGGC. Yr arwyddwyr o’r memorandwm Cyd-Ddealltwriaeth yw’r canlynol:
- Steve Moore, Prif Weithredwr, ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Carol Shillabeer, Prif Weithredwr, ar ran Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Gary Doherty, Prif Weithredwr, ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Tracy Myhill, Prif Weithredwr, ar ran Gwasanaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
- Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr, ar ran Coleg Cymraeg Cenedlaethol
- Professor John Grattan, Is-Ganghellor Gweithredol ar ran Prifysgol Aberystwyth
- Professor Medwin Hughes, Is-Ganghellor, ar ran Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
- Professor Colin Riordan, Is-Ganghellor, ar ran Prifysgol Cardydd
- Professor David Shepherd Dirpwy Is-Ganghellor ar ran Professor John Hughes, Is-Ganghellor, ar ran Prifysgol Bangor
- Bronwen Morgan, Prif Weithredwr, ar ran Cyngor Sir Ceredigion
- Jeremy Patterson, Prif Weithredwr, ar ran Cyngor Sir Powys
- Dilwyn Williams, Prif Weithredwr, ar ran Cyngor Gwynedd
Trefniant Lletya
Yn bresennol, mae IGGC yn cael ei letya gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar ran Grŵp Cydbwyllgor Iechyd a Gofal Canolbarth Cymru. Mae staff wedi eu lleoli yn bresennol yn adeiladau BIPHDd (Ael-y-Bryn, Penglais, Aberystwyth SY23 2EU) ac yn cael eu cyflogi yn uniongyrchol gan BIPHDd.
Pwyllgorau Llywodraethau
Bwrdd Rheoli IGGC
Sefydlwyd bwrdd rheoli Canolfan ar gyfer Rhagoriaeth yn Iechyd a Gofal Gwledig yn mis Mai 2016, â’r bwriad i sicrhau rhaglen waith ar gyfer y Ganolfan ar gyfer Rhagoriaeth yn Iechyd a Gofal Gwledig a cytunwyd a dosbarthwyd. Ei amcan oedd i:
1. Cydlynu ymgysylltu ac ymgynghori rhanddeiliaid priodol
2. Goruchwylio archwilio a cychwyn hyfforddiant, addysg ac ymchwil
3. Dylanwadu modelau gwasanaeth newydd a darparu modelau gwasanaeth presennol
4. Cychwyn, gyrru ac hwyluso astudiaethau gwerthuso ac ymchwil priodol i gyfarwyddo a sefydlu arloesedd yn iechyd a gofal cymdeithasol gwledig
Gellir gweld Telerau Cyfeiriadau ar gyfer Bwrdd Rheoli Canolfan ar gyfer Rhagoriaeth yn Iechyd a Gofal Gwledig yma.
Mae’r bwrdd rheoli Canolfan ar gyfer Rhagoriaeth yn Iechyd a Gofal Gwledig yn cael ei gadeirio yn bresennol gan gyd-gadeiryddion o Grŵp Cydweithredol Gofal Iechyd Y Canolbarth ac wedi cwrdd ddwywaith erbyn hyn, ar y 9fed o Fai 2016 ac yr 17eg o Chwefror 2017. Mae aelodaeth y bwrdd rheoli yn cynnwys cynrychiolyddion o’r partneriaid o Grŵp Cydweithredol Gofal Iechyd Y Canolbarth a partneriaid prifysgolion.
Is-Bwyllgor IGGC
Sefydlwyd is-bwyllgor Canolfan ar gyfer Rhagoriaeth yn Iechyd a Gofal Gwledig gan Grŵp Cydweithredol Gofal Iechyd Y Canolbarth i ddatblygu, cytuno a monitor y cynllungwaith i sefydlu Canolfan ar gyfer Rhagoriaeth yn Iechyd a Gofal Gwledig. Mae’r is-bwyllgor wedi cwrdd ar y 05/01/16, 11/02/16, 07/03/16, 09/05/16, 11/10/16 a 17/02/17.
Gellir gweld Telerau Cyfeiriadol ar gyfer is-bwyllgor Canolfan ar gyfer Rhagoriaeth yn Iechyd a Gofal Gwledig yma.