Mae Iechyd a Gofal Gwledig Cymru yn sefydliad rhagoriaeth newydd sy'n arwain y ffordd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol gwledig, a hynny yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol.

Ffurfiwyd y sefydliad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a chaiff ei gefnogi ganddynt. Mae'n gweithio ar y cyd â phrifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Abertawe a'r Drindod Dewi Sant, yn ogystal ag awdurdodau lleol Ceredigion, Powys a Gwynedd.

Mae gan y sefydliad dri phrif faes gwaith:

Gweledigaeth Iechyd a Gofal Gwledig Cymru yw:

"i fod yn sefydliad sy'n arwain y byd o ran ymchwil, hyfforddiant, recriwtio ac arfer gorau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol gwledig."

Prif nodau Iechyd a Gofal Gwledig Cymru yw:

  • darparu pwynt ffocws ar gyfer datblygu a choladu ymchwil o ansawdd uchel sy'n berthnasol i iechyd a lles gwledig
  • gwella hyfforddiant a'r gallu i recriwtio a chadw gweithlu proffesiynol mewn cymunedau gwledig
  • cael ei gydnabod yn esiampl ym maes iechyd a lles gwledig, a hynny ar y llwyfan rhyngwladol

Ei amcanion yw:

  1. sefydlu rhwydwaith o unigolion a grwpiau sy'n cefnogi ymchwil, arloesi a datblygu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol gwledig
  2. cydweithio â phartneriaid rhyngwladol ar brosiectau ymchwil ym maes iechyd a gofal cymdeithasol gwledig ac i ddatblygu modelau arfer gorau
  3. cychwyn a dylanwadu ar y gwaith ymarferol o gymhwyso canfyddiadau ymchwil ac arferion arloesol a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles gwledig
  4. gweithio gyda chyrff proffesiynol a Sefydliadau Addysg Uwch i sicrhau bod rhaglenni addysg, hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus perthnasol ar gael i ddarparu'r sgiliau a'r wybodaeth y mae ar weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol eu hangen i ddarparu gofal o ansawdd uchel mewn ardaloedd gwledig
  5. coladu ac ymgymryd ag ymchwil sy'n llywio modelau atal, triniaeth a gofal a fydd yn gwella iechyd a lles cymunedau gwledig
  6. ymgysylltu'n rhagweithiol â'r cyhoedd a chymunedau lleol wrth ddatblygu ymchwil a mentrau iechyd a gofal cymdeithasol gwledig
  7. rhoi cyngor ar y gwaith o ddatblygu a darparu gwasanaethau hygyrch, sy'n seiliedig ar ddewis gwybodus gan gleifion, atal, rhoi diagnosis a hunanofal
  8. cefnogi'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a chydweithwyr ym maes polisi i fod yn gwbl ymwybodol o'r cwmpas, y cyfleoedd, y problemau a'r heriau sy'n gysylltiedig â gweithredu iechyd a gofal cymdeithasol darbodus mewn amgylchedd gwledig