Ymgysylltu â’r Cyhoedd a Staff

Fel rhan o’i raglen waith flynyddol y cytunwyd arni gan Gyd-Bwyllgor y Canolbarth, mae RHCW yn cael y dasg o fynychu digwyddiadau a chynadleddau addas i hyrwyddo gwaith RHCW ac i godi’r materion sy’n cael eu heffeithio gan natur wledig rhanbarth Canolbarth Cymru.

Diffinnir rhanbarth Canolbarth Cymru fel y rhanbarth rhwng yr arc sy’n cysylltu Abermaw yng ngogledd orllewin Cymru ar draws i’r Trallwng yn y gogledd-ddwyrain, ac i lawr i’r arc gyferbyn i’r de, sy’n cysylltu Aberteifi yn y gorllewin, ar draws i Lanymddyfri a yna ymlaen i Lanfair-ym-Muallt yn y dwyrain. Y tair ardal sirol sydd wedi’u cynnwys yn rhanbarth Canolbarth Cymru yw Ceredigion, de Gwynedd (Meirionnydd) a gogledd Powys

Mae Rhaglen Waith 2024 / 25 yn gofyn am y canlynol:

– Mynychu, o leiaf, 4 cynhadledd allanol, a dylai 1 ohonynt fod yn gynhadledd
Ryngwladol, ar gyfer cyflwyno gwaith IGGC,

– Mynychu, o leiaf, 3 digwyddiad addas i godi proffil materion iechyd a gofal gwledig
a gwaith IGGC
– Cyflwyno Gweminar y Gaeaf (Ionawr) a’r Haf (Gorffennaf).
– Cyflwyno Cynhadledd flynyddol IGGC ar Faes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanfair ym
Muallt

Yn 2023 lansiodd IGGC ei bodlediadau ac mae’n defnyddio ei bresenoldeb cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo gwaith y tîm, ac i gefnogi ac ymgysylltu â materion iechyd a gofal sy’n effeithio ar ranbarth Canolbarth Cymru. Gallwch ddod o hyd i ni ar Facebook, X (Twitter gynt), Linkedin ac Instagram