Llywodraethiant

Memorandwm Cyd-Ddealltwriaeth

Dosbarthwyd Memorandwm Cyd-Ddealltwriaeth (MCD) yn gynnar yn mis Medi 2016 a gadarnhawyd cytundeb o’r cyd-weithio rhwng pob partner a’r ymrwymiad i sefydliad IGGC (a enwir yn Ganolfan ar gyfer Rhagoriaeth yn Iechyd a Gofal Gwledig). Arwyddwyd y Memorandwm Cyd-Ddealltwriaeth gan y Prif Weithredwyr ac Is-Ganghellwyr o’r partneriaid sydd yn rhan o IGGC. Yr arwyddwyr o’r memorandwm Cyd-Ddealltwriaeth yw’r canlynol:

  • Steve Moore, Prif Weithredwr, ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Carol Shillabeer, Prif Weithredwr, ar ran Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
  • Gary Doherty, Prif Weithredwr, ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • Tracy Myhill, Prif Weithredwr, ar ran Gwasanaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
  • Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr, ar ran Coleg Cymraeg Cenedlaethol
  • Professor John Grattan, Is-Ganghellor Gweithredol ar ran Prifysgol Aberystwyth
  • Professor Medwin Hughes, Is-Ganghellor, ar ran Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
  • Professor Colin Riordan, Is-Ganghellor, ar ran Prifysgol Cardydd
  • Professor David Shepherd Dirpwy Is-Ganghellor ar ran Professor John Hughes, Is-Ganghellor, ar ran Prifysgol Bangor
  • Bronwen Morgan, Prif Weithredwr, ar ran Cyngor Sir Ceredigion
  • Jeremy Patterson, Prif Weithredwr, ar ran Cyngor Sir Powys
  • Dilwyn Williams, Prif Weithredwr, ar ran Cyngor Gwynedd

Trefniant Lletya

Yn bresennol, mae IGGC yn cael ei letya gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar ran Grŵp Cydbwyllgor Iechyd a Gofal Canolbarth Cymru. Mae staff wedi eu lleoli yn bresennol yn adeiladau BIPHDd (Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE) ac yn cael eu cyflogi yn uniongyrchol gan BIPHDd.

Pwyllgorau Llywodraethau

Bwrdd Rheoli IGGC
Sefydlwyd bwrdd rheoli Canolfan ar gyfer Rhagoriaeth yn Iechyd a Gofal Gwledig yn mis Mai 2016, â’r bwriad i sicrhau rhaglen waith ar gyfer y Ganolfan ar gyfer Rhagoriaeth yn Iechyd a Gofal Gwledig a cytunwyd a dosbarthwyd. Ei amcan oedd i:

1. Cydlynu ymgysylltu ac ymgynghori rhanddeiliaid priodol
2. Goruchwylio archwilio a cychwyn hyfforddiant, addysg ac ymchwil
3. Dylanwadu modelau gwasanaeth newydd a darparu modelau gwasanaeth presennol
4. Cychwyn, gyrru ac hwyluso astudiaethau gwerthuso ac ymchwil priodol i gyfarwyddo a sefydlu arloesedd yn iechyd a gofal cymdeithasol gwledig

Gellir gweld Telerau Cyfeiriadau ar gyfer Bwrdd Rheoli Canolfan ar gyfer Rhagoriaeth yn Iechyd a Gofal Gwledig yma.
Mae’r bwrdd rheoli Canolfan ar gyfer Rhagoriaeth yn Iechyd a Gofal Gwledig yn cael ei gadeirio yn bresennol gan gyd-gadeiryddion o Grŵp Cydweithredol Gofal Iechyd Y Canolbarth ac wedi cwrdd ddwywaith erbyn hyn, ar y 9fed o Fai 2016 ac yr 17eg o Chwefror 2017. Mae aelodaeth y bwrdd rheoli yn cynnwys cynrychiolyddion o’r partneriaid o Grŵp Cydweithredol Gofal Iechyd Y Canolbarth a partneriaid prifysgolion.

Is-Bwyllgor IGGC

Sefydlwyd is-bwyllgor Canolfan ar gyfer Rhagoriaeth yn Iechyd a Gofal Gwledig gan Grŵp Cydweithredol Gofal Iechyd Y Canolbarth i ddatblygu, cytuno a monitor y cynllungwaith i sefydlu Canolfan ar gyfer Rhagoriaeth yn Iechyd a Gofal Gwledig. Mae’r is-bwyllgor wedi cwrdd ar y 05/01/16, 11/02/16, 07/03/16, 09/05/16, 11/10/16 a 17/02/17.

Gellir gweld Telerau Cyfeiriadol ar gyfer is-bwyllgor Canolfan ar gyfer Rhagoriaeth yn Iechyd a Gofal Gwledig yma gweld yma.