Anna L Prytherch - Pennaeth Iechyd a Gofal Gwledig Cymru
Anna L Prytherch - Pennaeth Iechyd a Gofal Gwledig Cymru
Anna yw Pennaeth Iechyd a Gofal Gwledig Cymru, gan gychwyn yn y swydd ar ddechrau Chwefror 2017. Mae gan Anna ôl-radd mewn Busnes (BScEcon, MBA) ac yn ddiweddar wedi cyflwyno ei Doethuriaeth mewn Busnes a Rheolaeth (Rhwydweithiau Dysgu a Throsglwyddo Gwybodaeth). Mae ganddi 25 mlynedd o brofiad rheoaethol uwch mewn sefydliadau preifat, cyhoeddu a’r 3ydd sector. Yn ogystal sefydlodd fusnes ymgynghorol gafodd ei gydnabod fel un o fusnesau cychwynnol y Wales Top 100 yn 2006. Mae yn PRINCE2 achrededig (Rheolaeth Prosiect) ac yn meddu ar gymhwyster dysgu addysg uwch, gyda phrofiad o ddarlithio ar lefel Addysg Bellach ac Addysg Uwch. Cyn gweithio i’r IGGC roedd Anna yn gweithio i’r awdurdod lleol fel rheolwr dysgu galwedigaethol ar draws Geredigion. Mae ganddi ddiddordeb brwd mewn dysgu gydol oes a datblygiad proffesiynol parhaus a hi fydd yn arwain ymchwil, addysg, hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal chymdeithasol mewn ardaloedd gwledig. Yn Gymraes rhugl cafodd Anna ei geni a’i magu mewn ardal wledig yng Ngheredigion a mae’n frwdfrydig iawn am yr ardal a’i hamgylchedd a diwylliant naturiol unigryw ac amrywiol.
Michelle Symes - Swyddog Ymchwil a Datblygu
Michelle Symes - Swyddog Ymchwil a Datblygu
Michelle Symes - Swyddog Ymchwil a Datblygu
Ymunodd Michelle ag IGGC ym mis Tachwedd 2022 fel Swyddog Ymchwil a Datblygu. Ymunodd Michelle ag IGGC o Ysbyty Bronglais (Wardiau Dyfi ac Ystwyth) lle bu’n gweithio fel Clerc Ward, a Swyddog Cyswllt Teuluol, gan gyfuno’r gwaith hwn sy’n canolbwyntio ar y claf â chymorth ymchwil yn Adran Polisi Cymdeithasol Prifysgol Birmingham. Cyn hyn roedd Michelle wedi gweithio fel Gweinyddwr Ôl-raddedig ac Ymchwil yn yr Adrannau Cyfrifiadureg, Ffiseg a Mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ei diddordebau yn ymwneud â systemau gofal iechyd, profiad y claf yn ymwneud yn benodol â Dementia, a hygyrchedd darpariaeth gofal iechyd o fewn rhanbarth Canolbarth Cymru.
Rebecca Gardner - Ymchwilydd Profiad Canser Gwledig Macmillan
Ymchwilydd Profiad Canser Gwledig Macmillan.
Ymunodd Becky â RHCW ym mis Gorffennaf 2023 fel Ymchwilydd Profiad Canser Gwledig Macmillan. Mae ganddi MSc mewn Iechyd Cyhoeddus Byd-eang o Brifysgol y Frenhines Mary, diploma ILM Lefel 5 mewn Arwain a Rheoli a BA mewn Daearyddiaeth. Mae Becky wedi rheoli practis deintyddol preifat yn y gorffennol, wedi gweithio i gwmni fferyllol ac mewn rheolaeth manwerthu; mae hi hefyd wedi bod yn aelod lleyg o bwyllgor diagnosteg NICE. Mae Becky wedi bod i'r ysgol, y brifysgol ac wedi magu teulu yng Nghanolbarth Cymru ac mae'n teimlo'n angerddol am y lle, y bobl a'r gymuned. Bydd Becky yn ymchwilio i brofiadau canser pobl sy'n byw gyda chanser yng nghefn gwlad canolbarth Cymru, gyda'r nod o ddatgelu unrhyw anghydraddoldebau posibl rhwng y profiad gwledig a threfol.
Lottee Deak - Swyddog Ymchwil a Datblygu
Lottee Deak - Swyddog Ymchwil a Datblygu
Lottee Deak - Swyddog Ymchwil a Datblygu
Dechreuodd Lottee weithio fel Swyddog Ymchwil a Datblygu yn RHCW ym mis Rhagfyr 2023.Ymunodd Lottee â RHCW o Ysbyty Bronglais lle mae'n gweithio fel Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Banc. Ar ôl iddi ennill Gradd Anrhydedd Seicoleg BCs dosbarth cyntaf, mae Lottee wedi ymgymryd â gwaith ac astudiaeth bellach fel rhan o MPhil mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae Lottee wedi ymestyn ei sgiliau a'i phrofiadau ymchwil ymhellach fel rhan o'r Tîm Ymchwil yn Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth fel Cymrawd Ymchwil Ymgysylltu Cymunedol ar gyfer amrywiol brosiectau ymchwil. Mae Lotte wedi gwirfoddoli ar gyfer DDAS ers sawl blwyddyn ac wedi cael ei chyflogi fel Gweithiwr Allgymorth y Prosiect Gwasanaeth Pobl Iau a Phobl Hŷn, Cyn-Droseddwyr a Tai yn Gyntaf fel aelod o amrywiaeth o sefydliadau i gynorthwyo unigolion mewn angen. Mae diddordebau Lotte yn ymwneud â chymunedau ac iechyd, gofal cyfannol a'r manteision iechyd o fod ym myd natur a gwasanaethau gofal iechyd ataliol, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud ag iechyd meddwl.
Mari Lewis - Swyddog Ymchwil a Datblygu
Mari Lewis - Swyddog Ymchwil a Datblygu
Mari Lewis - Swyddog Ymchwil a Datblygu
Ymunodd Mari ag Iechyd a Gofal Gwledig Cymru (IGGC) ym mis Rhagfyr 2023 fel Swyddog Ymchwil a Datblygu. Ymunodd Mari fel un o raddedigion Prifysgol Aberystwyth gyda gradd Israddedig mewn Seicoleg a gradd Ôl-raddedig mewn Newid Ymddygiad. Yn ystod ei hastudiaethau, treuliodd Mari haf yn gweithio fel Cymorth Prosiect ar gyfer prosiect Ucheldiroedd Arfordirol: Treftadaeth a Thwristiaeth (CUPHAT) gyda Phrifysgol Aberystwyth, lle cafodd y dasg o gynnal ymchwil ar fywyd a diwylliant cymunedol ym Mynyddoedd y Preseli a Mynyddoedd Cambria, i gynorthwyo gyda phoblogi gwefan newydd CUPHAT sy'n ceisio denu mwy o dwristiaeth i'r ardaloedd hyn. Yn tyfu i fyny, treuliodd Mari ei phenwythnosau yn gweithio i fusnes ei theulu, WD Lewis & Son (masnachwr amaethyddol yn Llanbedr Pont Steffan) ac ers hynny mae’n gweithio yno’n rhan amser ochr yn ochr â’r rôl hon. Mae’r rhyngweithio hwn gyda dinasyddion o gymunedau amaethyddol wedi arwain Mari i deimlo’n angerddol am les y rhai sy’n byw mewn ardaloedd gwledig anghysbell yng Nghymru, yn enwedig o ran iechyd meddwl ffermwyr, ac unigolion eraill o’r sector amaethyddol.
Peter Skitt - Cadeirydd Grwp Rhanddeilliad IGGC
Peter Skitt - Cadeirydd Grwp Rhanddeilliad IGGC
Peter Skitt - Cadeirydd Grwp Rhanddeilliad IGGC
Ar hyn o bryd mae Peter Skitt yn gweithio ar y cyd fel Cyfarwyddwr Sir Ceredigion ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chyfarwyddwr Rhaglen Cydbwyllgor Canolbarth Cymru. Mae ganddo dros 40 mlynedd o brofiad o weithio mewn rolau arweinyddiaeth glinigol ac anghlinigol o fewn y gwasanaeth iechyd ar draws gwasanaethau gofal sylfaenol, cymunedol ac eilaidd ac mae wedi bod yn arwain ar nifer o bartneriaethau a chydweithrediadau ar y cyd rhwng iechyd, gofal cymdeithasol, gwasanaethau gofal eilaidd a sefydliadau trydydd sector.