Cynhadledd IGGC 2017

Cynhaliwyd cynhadledd gyntaf Iechyd a Gofal Gwledig Cymru ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, Powys ddydd Mawrth 14 Tachwedd 2017. Cynhaliwyd yr agoriad swyddogol gan Dr Chris Jones, Cadeirydd dros dro Addysg a Gwella Iechyd Cymru gyda thua 180 cynrychiolwyr yn bresennol.

Roedd y gynhadledd yn llwyddiant ysgubol, gyda chyflwyniadau gan Nigel Edwards, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Nuffield, ar “Meddygaeth Acíwt mewn Ardaloedd Gwledig”; Louise Patten, Prif Swyddog CCG Aylesbury Vale; Ffederasiwn CCG Chiltern, ar “Leihau costau trwy integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol”, a Dr Peter Saul o Ddeoniaeth Cymru ar “Recriwtio a Hyfforddi Meddygon Teulu Gwledig”.

Wrth wneud sylw ar gyflwyniad Peter Saul, dywedodd y cyd-Gadeirydd Dr Ruth Hall fod “y safbwyntiau a roddwyd ar recriwtio a hyfforddi meddygon ar gyfer ymarfer gwledig, a oedd yn cynnwys effeithiau ehangach materion fel trafnidiaeth, iaith a chanfyddiadau pobl o wledigrwydd, yn hynod berthnasol a cael ei werthfawrogi gan y gynulleidfa”.

Roedd amserlen brysur y diwrnod yn rhoi’r dewis i gynrychiolwyr fynychu 4 cyflwyniad allan o 16 posibl, yn cwmpasu ystod eang o faterion iechyd a gofal cymdeithasol gwledig a oedd yn amrywio o arferion gofal cymunedol arloesol, rhagnodi gwyrdd a glas, dementia mewn ardaloedd gwledig, teleiechyd a llawer mwy. (Agenda Cynhadledd IGGC: https://ruralhealthandcare.wales/wp-content/uploads/2018/01/Agenda.docx)

Cynhaliwyd cystadleuaeth ar gyfer y poster gorau a arddangoswyd yn y gynhadledd, gyda’r wobr fuddugol yn mynd i Dr Alan Stone o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd am ei boster ar “Ysbyty neu Gymuned? A all lleoliadau cymunedol ddarparu’r un profiad dysgu â ysbytai traddodiadol?” Yn ail roedd Erika Cowie a Tracy Sandell o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am eu poster ar “Allwedd ar gyfer Recriwtio a Chadw”, ac yn drydydd roedd Dr Sue Fish o Ofal Sylfaenol Cambrian am ei phoster yn darlunio “Gweithredu Teledermatoleg. Gwasanaeth Atgyfeirio Ar Gyfer Pob Atgyfeiriad gan Feddyg Teulu O Ogledd Ceredigion At y Dermatolegydd Ymgynghorol Yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd”.

Daeth y diwrnod i ben gyda Phanel o arbenigwyr yn ymateb i sesiwn holi ac ateb agored o’r llawr. Roedd y panel yn cynnwys Sue Darnbrook, Cyfarwyddwr Strategol Gofal, Amddiffyn a Ffordd o Fyw gyda Chyngor Sir Ceredigion, Dr Phil Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol a Chyfarwyddwr Strategaeth Glinigol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, a Dr Evan Moore, Cyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Roedd yr adborth a dderbyniwyd yn hynod gadarnhaol, gyda chynlluniau ar y gweill i adeiladu ar ei llwyddiant a gwneud y gynhadledd yn ddigwyddiad blynyddol. (Mae copi o’r adborth a’r gwerthusiadau a dderbyniwyd ar gael yma: https://ruralhealthandcare.wales/wp-content/uploads/2018/01/EvaluationReportFINAL.pdf

Copïau o gyflwyniadau’r Cyfarfod Llawn:

Nigel Edwards, Prif Swyddog Gweithredol Ymddiriedolaeth Nuffield – Meddygaeth Acíwt mewn Ardaloedd Gwledig: https://ruralhealthandcare.wales/wp-content/uploads/2018/01/NigelEdwards-1.pptx

Louise Patten, Prif Swyddog Gweithredol Aylesbury Vale CCG; Ffederasiwn CCG Chiltern – Lleihau costau drwy integreiddio gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol: https://ruralhealthandcare.wales/wp-content/uploads/2018/01/Presentation-to-RHCW-Annual-Conference-Lou-Patten-FINAL.pdf

Peter Saul, Deon Cyswllt Meddygon Teulu Deoniaeth Cymru – Recriwtio a Hyfforddi Meddygon Teulu Gwledig: https://ruralhealthandcare.wales/wp-content/uploads/2018/01/Supporting-Recruitment-in-Rural-Areas_PETER_SAUL.pptx

CYFLWYNIADAU PAPUR: Opsiynau a gylfwynwyd i gynadleddwyr: https://ruralhealthandcare.wales/wp-content/uploads/2018/01/PaperPresentationOptionsFINAL.docx

Cyflwyniadau 1:
Iechyd Gwledig ac Anghysbell mewn Addysg Feddygol, yr Athro Andrew Grant: https://ruralhealthandcare.wales/wp-content/uploads/2018/01/AndrewGrant.pptx

Adolygiad Systematig o Astudiaethau Gwerthuso Economaidd ar y defnydd o Fannau Gwyrdd a Glas i wella iechyd y boblogaeth: protocol, Dr Llinos Spencer et al

Meddygaeth P4 mewn cymunedau anghysbell: monitro statws maethol unigolion agored i niwed gan ddefnyddio samplau wrin wedi’u postio, yr Athro John Draper: https://ruralhealthandcare.wales/wp-content/uploads/2018/01/JohnDraperSummary.docx

Gofal Iechyd Cynaliadwy, Dr Emma Vaux: https://ruralhealthandcare.wales/wp-content/uploads/2018/01/EmmaVaux.pdf

Cyflwyniadau 2:
Cyfleoedd i israddedigion mewn Iechyd Gwledig a Chymunedol, Dr Steve Riley: https://ruralhealthandcare.wales/wp-content/uploads/2018/01/SteveRiley.pptx

Materion Dementia Gwledig: a all Powys arwain y ffordd?, Samantha Bolam: https://ruralhealthandcare.wales/wp-content/uploads/2018/01/samBolam.pptx

Effeithiolrwydd Cynllunio a Darparu Gofal Iechyd Gwledig – Profiadau o Wledydd eraill, Tom Brooks: https://ruralhealthandcare.wales/wp-content/uploads/2018/01/TomBrooks.pptx

Onid yw’r mynydd yn ddigon uchel….adolygiad systematig o lenyddiaeth ynghylch gofal iechyd gwledig, gyda ffocws ar recriwtio a chadw’r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yn rhanbarth Canolbarth Cymru, Jo Creasey

Cyflwyniadau 3:
Ffactorau sy’n Effeithio ar Recriwtio a Chadw Meddygon Teulu yng Nghymru, Dr Heidi Phillips: https://ruralhealthandcare.wales/wp-content/uploads/2018/01/HeidiPhillips.pptx

Beth sy’n digwydd yn Solfach? Arloesedd mewn Gofal Cymunedol, Fran Barker; Lena Dixon: https://ruralhealthandcare.wales/wp-content/uploads/2018/01/SolvaCareSummary.docx

Gwasanaeth wlserau bôn braich arbenigol mewn lleoliad gwledig: gosod y safonau, yr Athro Dean Williams: https://ruralhealthandcare.wales/wp-content/uploads/2018/01/ProfDeanWilliams.pptx

Gwahaniaeth Cleifion a Phroffesiynol o ran derbynioldeb teleiechyd mewn gofal lliniarol: persbectif Damcaniaeth Hunanbenderfyniad, Dr Rachel Rahman et al : https://ruralhealthandcare.wales/wp-content/uploads/2018/01/RachelRahman.pdf

Cyflwyniadau 4:
Datblygu gwasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol ar draws 2,000 milltir sgwâr: a yw’n ddarbodus?, Sophia Bird: https://ruralhealthandcare.wales/wp-content/uploads/2018/01/SophiaBird.pptx

Allgáu Cymdeithasol ymhlith Pobl Hŷn mewn Ardaloedd Gwledig: Safbwynt Aml-lefel a Chwrs Oes, Bethan Winter: https://ruralhealthandcare.wales/wp-content/uploads/2018/01/BethanWinter.pptx

Grymuso unigolion i wella eu hiechyd a’u lles mewn cymunedau gwledig gan ddefnyddio technoleg ddigidol glyfar ac Apiau cysylltiedig., Dr Amanda Lloyd: https://ruralhealthandcare.wales/wp-content/uploads/2018/01/AmandaLloydSummary.docx

Parafeddygon Cymunedol – Meithrin Perthynas â Gofal Sylfaenol, Grayham Maclean a Vince Bagole: https://ruralhealthandcare.wales/wp-content/uploads/2018/01/CommunityParamedics-Building-a-Relationship-with-Primary-Care.pptx