Gwella Iechyd, Llesiant a Gofal Poblogaethau Gwledig
Cynhaliwyd ail gynhadledd Iechyd a Gofal Gwledig Cymru, “Gwella Iechyd, Llesiant a Gofal Poblogaethau Gwledig”, ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ddydd Mawrth 13 Tachwedd 2018. Dr Chris Jones, Cadeirydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru, a agorodd y Gynhadledd yn swyddogol, a Bernardine Rees OBE, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Canolbarth Cymru fu’n cydlynu’r digwyddiad diwrnod o hyd i gynulleidfa o tua 150 o bobl.
Cafodd y gynhadledd dderbyniad da iawn, lle cafwyd cyflwyniadau llawn gan Helen Howson, Cyfarwyddwr Comisiwn Bevan, ar “Trawsnewid Iechyd a Gofal Gwledig – ffyrdd o feddwl ac ymarfer”; Dr Carolyn Wallace, Cadeirydd Rhwydwaith Ymchwil Presgripsiynu Cymdeithasol Cymru Gyfan, ar “Creu’r dystiolaeth hollbwysig ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol yng Nghymru: gwaith y Rhwydwaith Ymchwil Presgripsiynu Cymdeithasol” a Jack Evershed, Cadeirydd Iechyd a Gofal Gwledig Cymru, ar “O Brotest i Gydgynhyrchu – taith bersonol”, gan arwain ymlaen at arddangosiad ymarferol cyffrous a chyflwyniad gan Jess Allen o Awyrol ar “Cychwyn ar wib: ioga awyr fel ymarfer chwareus ar gyfer iechyd a llesiant eich holl hunan mewn cymunedau gwledig”.
Roedd amserlen brysur y diwrnod yn rhoi’r dewis i’r cynadleddwyr wrando ar dri chyflwyniad allan o 12 posibl, gan gwmpasu sbectrwm eang o bynciau a oedd yn amrywio o hyfforddiant meddygol ar gyfer meddygon teulu gwledig yng Nghymru a’r Alban, gofal bydwreigiaeth mewn ardaloedd gwledig, diogelwch ar ffyrdd gwledig fel problem iechyd y cyhoedd, y modd y mae coetiroedd yn cael eu defnyddio ar gyfer llesiant, a’r defnydd o lythrennedd corfforol i fynd i’r afael ag anweithgarwch, i enwi dim ond rhai.
Cafwyd arddangosfa ardderchog o bosteri, ac aeth y wobr fuddugol i Hannah Buck, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, am ei phoster ar “Parciau Cenedlaethol Cymru: gyda’n gilydd ar gyfer Iechyd a Llesiant”. Yn ail roedd Sam Harvey, myfyriwr o Brifysgol Aberystwyth, gyda’i boster ar “Recriwtio Oedolion Hŷn Agored i Niwed o leoliad gwledig i weithdy iechyd a ffitrwydd gweithredol undydd sy’n hybu gweithgarwch corfforol”, ac yn drydydd roedd Dr Marie Lewis, Bydwraig Ymgynghorol gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, am ei phoster yn darlunio “ASAP – Sgiliau Priodol ar gyfer Lleoedd Priodol”.
Mae’r adborth sydd wedi dod i law wedi bod yn hynod gadarnhaol, a’r bwriad yw parhau i gynnal cynhadledd wledig yn y Canolbarth y flwyddyn nesaf ac i hyn fod yn ddigwyddiad blynyddol parhaus. Mae adroddiad adborth a gwerthuso y Gynhadledd ar gael yma: Adroddiad Gwerthuso Cynhadledd 2018 RHCW