Ysbytai Cymunedol Canolbarth Gwledig Cymru

Cafodd Iechyd a Gofal Gwledig Cymru (IGGC) y dasg gan Grŵp Rhanddeiliaid IGGC a Chyd-bwyllgor Iechyd a Gofal Canolbarth Cymru ym mis Tachwedd 2019 i ymchwilio i ddarpariaeth ysbytai cymunedol ar draws Canolbarth Cymru er mwyn:

  • cael dealltwriaeth o rôl a gwerth ysbytai cymunedol ar draws y rhanbarth
  • nodi “gwerth” Ysbytai Cymunedol i boblogaeth Canolbarth Cymru, o gymharu â mesurau gwerthuso presennol a ddefnyddir ar gyfer Ysbytai Cymunedol ledled y DU
  • darparu argymhellion ar beth yw’r gwir adlewyrchiadau o werth yr Ysbytai Cymunedol i’r bobl sy’n byw yng nghefn gwlad Cymru

Diffinnir rhanbarth Canolbarth Cymru fel yr ardal sy’n cysylltu Abermaw yng ngogledd orllewin Cymru, ar draws i’r Trallwng yn y gogledd ddwyrain, i lawr i Aberteifi yn y de orllewin , ar draws i Lanymddyfri ac yna i Lanfair ym Muallt yn y de ddwyrain.

Yr 11 Ysbyty Cymunedol yn y rhanbarth , sy’n darparu 185* o welyau cleifion mewnol , yw:

  • Ysbyty Cymunedol Bro Ddyfi
  • Ysbyty Cymunedol Bronllys
  • Ysbyty Dolgellau ac Abermo
  • Ysbyty Cymunedol Tref y Clawdd
  • Ysbyty Cymunedol Llanymddyfri
  • Ysbyty Coffa Llandrindod Wells
  • Ysbyty Coffa Rhyfel Llanidloes
  • Ysbyty Sir Drefaldwyn
  • Ysbyty Cymunedol Tregaron
  • Ysbyty Cymunedol Tywyn
  • Ysbyty Coffa Fictoria (Y Trallwng)

* Yn gywir fel ar adeg ysgrifennu (Mawrth 2024).

Mae cymorth gwasanaeth Cymunedol ychwanegol ar gael drwy Ganolfannau Gofal Integredig Aberaeron ac Aberteifi.

Yr unig Ysbyty Cyffredinol Dosbarth yn y rhanbarth yw Bronglais yn Aberystwyth, sydd â 165 o welyau acíwt a brys (BIPHDd, 2024) mae hyn yn rhoi cyfanswm o 341 o welyau cleifion mewnol i wasanaethu poblogaeth Canolbarth Cymru o 252,646 (SYG, 2021). Nid yw mesurau gwerthuso presennol Ysbytai Cymunedol y DU yn cynnwys marcwyr gwerth pwysig ond anniriaethol yn aml y mae ysbytai cymuned gwledig yn eu cynnig , megis:

  • Hanes a Thraddodiad gan ysbrydoli ymddiriedaeth gymunedol a gweithredu fel symbol o fywiogrwydd a hyfywedd cymuned (Glasby,2019)
  • Gwerth Economaidd effeithio ar gyflenwyr lleol , cyflogaeth leol a datblygu sgiliau drwy wirfoddoli
  • Gwerth a roddir gan y gymuned yn seiliedig ar ymddiriedaeth, profiad a gwybodaeth

Mae Posteri Academaidd drwy gydol cynnydd y gwaith hwn hefyd wedi’u cyflwyno yn:

  • Cynhadledd IGGC yn Llanfair ym Muallt – Tachwedd 2019
  • Cynhadledd ICIC24 yn Belfast – Ebrill 2024
  • Sioe Frenhinol Cymru – Gorffennaf 2024
  • RHCW Stakeholder presentation Medi 2024
  • Cymdeithas Ysbytai Cymunedol – Hydref 2024
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru – Rhagfyr 2024

Allbynnau yn cynnwys:

Skip to content