Dementia Gyfeillgar Ceredigion: Adolygiad Cwmpasu

Yr Ymchwil:
Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru (2024) yn amcangyfrif bod 1,455 o bobl 65 oed a hŷn yn byw gyda dementia (PBGD) yng Ngheredigion ac mae rhagamcanion yn unfrydol yn rhagweld cynnydd sylweddol dros y blynyddoedd i ddod. Mae demograffeg henoed Ceredigion hefyd yn nodi bod cyfran y PBGD yn y sir yn sylweddol uwch nag mewn ardaloedd lle mae demograffig preswyl iau.

Bydd yr ymchwil hwn yn cynnal adolygiad o’r llenyddiaeth sydd ar gael i nodi enghreifftiau o arfer gorau ac yn cynnal adolygiad cwmpasu o’r gwasanaethau, y cymorth a’r sefydliadau sydd ar gael yng Ngheredigion i gefnogi PBGD a hefyd eu gofalwyr. Bydd yr ymchwil hwn yn ymgysylltu’n uniongyrchol ag o leiaf 20 o unigolion sy’n gweithio i ddarparu gwasanaethau yng Ngheredigion. Bydd canfyddiadau’r adolygiad cwmpasu hwn yn cael eu rhannu ag o leiaf 4 sefydliad arall. Bydd yr ymchwil yn cloi gyda chyflwyniad argymhellion a chynllun gweithredu ar gyfer gweithredu gwelliannau / mentrau lle bo’n briodol.

Ceredigion: Y dirwedd ddaearyddol a demograffig
Tref Sirol Ceredigion yw Aberystwyth , sef prifddinas weinyddol Ceredigion . Mae gan Geredigion hefyd bum prif dref arall: Aberaeron, Aberteifi, Llanbedr Pont Steffan, Cei Newydd a Thregaron.

Ceredigion yw pedwaredd brif ardal fwyaf Cymru, fel y’i diffinnir gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, gan arwynebedd tir 1,783km2 * * https://www.legislation.gov.uk/ukpga/1994/19/schedule/1 rhyw 6% (28,188 erw neu 114.072km2), sef tir comin fel a ganlyn:

• Glaswelltir asidig sych heb ei wella
• Glaswelltir asidig wedi’i led-wella
• Glaswelltir corsiog asidig
• Rhedyn
• Gorgors
• Rhostir
• Glaswelltir wedi’i wella (CSC, 2024)

Mae gan y sir hefyd 18 maes tref neu bentref wedi’u cofrestru, o dan Ddeddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965 (Cyngor Sir Ceredigion (CSC), 2024).

Dynodwyd Ceredigion yn “ardal twf Twristiaeth” ranbarthol yn 2001 gan Fwrdd Croeso Cymru, yn rhannol oherwydd ei hystod eang o amgylcheddau daearyddol naturiol sy’n gartref i 80 milltir o lwybr Arfordir Cymru, sawl ardal fynyddig gan gynnwys mynyddoedd Cambria a Phumlumon, a nifer o safleoedd Bryngaer yr ystyrir mai’r mwyaf eiconig ohonynt yw Pen Dinas yn Aberystwyth (Driver, T. 2022, CSC). Mae Ceredigion hefyd yn gartref i 8 safle cestyll a phedair afon sirol: Aeron, Rheidol, Teifi ac Ystwyth (CSC., 2024).

Mae Canolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru (CGBGC) yn cyfrifo bod cyfanswm o 195km2 (19,501 ha) o Geredigion wedi’i gofrestru o dan warchodaeth statudol, gan gynnwys Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA), Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA), Safleoedd Ramsar, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol (GNG), ac adroddiadau Gwarchodfeydd Natur Lleol (LNR)2 heb eu cyhoeddi eto.

Mae gan y sir hefyd nifer o safleoedd darganfod awyr dywyll ar hyd Llwybr Astro Mynyddoedd Cambria. (Darganfod Ceredigion, 2024).

Gwasanaethir y Sir gan 40 o Ysgolion Cynradd, 7 Ysgol Uwchradd ac 1 Coleg Addysg Bellach ar ddau safle: Aberystwyth ac Aberteifi. Lleolir Prifysgolion Aberystwyth a’r Drindod Dewi Sant o fewn y Sir. (CSC, 2024)

Mae gan Geredigion 1 Ysbyty Cyffredinol Dosbarth: Bronglais yn Aberystwyth, 1 Ysbyty Cymunedol wedi’i leoli yn Tregaron* (yn gywir ar adeg ysgrifennu), a 2 Ganolfan Gofal Integredig yn Aberaeron ac Aberteifi, pob un yn cael eu rheoli gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae gan y Sir hefyd ddwy Ganolfan Byw’n Annibynnol yn Aberaeron (Penmorfa – sy’n hygyrch i’r cyhoedd) a Llanbedr Pont Steffan (Felin-fach – nad yw’n hygyrch i’r cyhoedd).

Data Cyfrifiad 2021 – Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)
Mae gan Geredigion boblogaeth o 71,500, gyda thua 40 o bobl fesul km2.


Oedran cyfartalog y boblogaeth yw 47.

  • Mae 13.10% o bobl Ceredigion o dan 15 oed, sef y ganran isaf o gymharu â holl awdurdodau lleol eraill  Cymru.
  • Mae 25.7% o boblogaeth Ceredigion yn 65+ oed sy’n gynnydd o 5% ers cyfrifiad 2011 a 4.4% yn uwch  na chyfartaledd Cymru gyfan o 21.3%
  • Mae gan 45.3% o’r boblogaeth sgiliau Cymraeg.
  • Mae 80.8% o’r boblogaeth yn hunan-ddatgan iechyd da iawn neu dda gyda dim ond 5.5% yn hunan- ddatgan iechyd gwael neu wael iawn.
Skip to content