Cymunedau Cynaliadwy

Mae Cymunedau Cynaliadwy yn brosiect gwydnwch cymunedol sy’n cefnogi trigolion yn Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion i feithrin cysylltiadau cymdeithasol cryfach, lleihau unigrwydd, a chefnogi pobl i aros yn annibynnol yn eu cymuned. Mae’r prosiect presennol yn adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd o brosiect Gofal Cardi yn Aberporth a’r peilot Cymunedau Cynaliadwy, a weithiodd ar draws Llanbedr Pont Steffan a Llanidloes, gan ddatblygu a phrofi dulliau o wydnwch dan arweiniad y gymuned yng nghefn gwlad Canolbarth Cymru. Mae’r prosiect bellach yn cael ei arwain fwyfwy gan drigolion Llanbed, gydag Iechyd a Gofal Gwledig Cymru yn darparu cefnogaeth barhaus, ac o fis Medi ymlaen, bydd y dull yn cael ei dreialu mewn dwy gymuned arall yng Ngheredigion.

Mae’r prosiect wedi esblygu’n sylweddol ers iddo ddechrau. Bu Lottee (Brigitta) Deak a Mari Lewis yn gweithio ar y prosiect, gyda Lottee yn gweithredu fel y Cydlynydd Cymunedol a Mari yn cefnogi’r prosiect drwy waith gweinyddol ac ymchwil. Gyda’i gilydd, fe helpon nhw i sefydlu’r prosiect, ymgysylltu â thrigolion a sefydliadau cymunedol, a datblygu dealltwriaeth o anghenion lleol. Yn dilyn ymadawiad Lottee o Iechyd a Gofal Gwledig Cymru, mae Mari wedi ymgymryd â rôl Cydlynydd Cymunedol, gan barhau i gefnogi’r prosiect wrth iddo ddod dan arweiniad trigolion.

Wrth wraidd Cymunedau Cynaliadwy mae sesiynau cymdeithasol anffurfiol rheolaidd, gan ddarparu lle croesawgar i drigolion gyfarfod, cael coffi, cymryd rhan mewn gweithgareddau a mwynhau amser gyda’i gilydd. Mae’r prosiect wedi dangos pwysigrwydd creu cyfleoedd sy’n hygyrch, yn gyfarwydd ac wedi’u llunio gan ddiddordebau lleol. Mae’r trigolion yn barod i helpu llunio gweithgareddau a chyfrannu at redeg sesiynau, gan gryfhau eu hymdeimlad o berchnogaeth o fewn y prosiect. Mae’r dull yma wedi darparu dysgu gwerthfawr am sut y gall mentrau lleol gefnogi lles a lleihau unigedd.

Mae’r dysgu yma hefyd wedi cyfrannu at ddatblygiad Pecyn Cymorth LiCoSS Cymunedau Cynaliadwy. Defnyddiodd y pecyn cymorth ymchwil academaidd, enghreifftiau o arfer da a dysgu ymarferol o brosiect Llanbedr Pont Steffan i ddarparu fframwaith hyblyg ar gyfer datblygu mentrau gwydnwch cymunedol tebyg ar draws cefn gwlad Canolbarth Cymru. Wrth wraidd y pecyn mae pedwar egwyddor: Gwrando, Cysylltu, Cefnogi a Chynnal: deall anghenion lleol, creu cyfleoedd ar gyfer cysylltiad cymdeithasol, darparu cefnogaeth a chyfeirio priodol, a datblygu partneriaethau i gynnal y gwaith.

Yn bwysig, nid yw’r pecyn cymorth wedi’i gynllunio i efelychu prosiect Llanbedr Pont Steffan yn union. Yn hytrach, mae’n darparu man cychwyn y gellir ei addasu i anghenion, asedau a chynhwysedd cymunedau unigol. Yn y cam nesaf, bydd y dull yn cael ei dreialu mewn dwy gymuned arall yng Ngheredigion a fydd yn rhoi cyfle i brofi’r pecyn cymorth mewn gwahanol leoliadau gwledig, nodi beth sydd angen ei addasu a chryfhau’r dull ymhellach trwy adborth cymunedol.

Mae’r prosiect yn dangos bod gwydnwch cymunedol ar ei gryfaf pan fydd y bobl leol wrth wraidd llunio a chyflawni’r atebion. Drwy wrando ar drigolion, adeiladu ar gryfderau presennol a darparu’r gefnogaeth gywir, mae Cymunedau Cynaliadwy yn anelu at greu dull y gellir ei addasu a’i gynnal ledled cefn gwlad Canolbarth Cymru.

Mae Cymunedau Cynaliadwy yn cael ei ariannu drwy Gronfa Integreiddio Ranbarthol Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, gan gefnogi gwaith parhaus y prosiect a datblygu a phrofi Pecyn Cymorth Cymunedau Cynaliadwy.

Skip to content