Y Gynhadledd Flynyddol IGGC
Cynhelir cynhadledd flynyddol IGGC yn gynnar ym mis Tachwedd yn Sioe-dir Brenhinol Cymru, Llanelwedd. Mae’r gynhadledd yn para am ddau ddiwrnod llawn, ac eithrio’r gynhadledd ddathlu tri diwrnod a gynhaliwyd yn 2024 i nodi deng mlynedd ers cyhoeddi *The Mid Wales Health Study* (Longley et al, 2014), astudiaeth a arweiniodd at sefydlu Iechyd a Gofal Gwledig Cymru (IGGC).
Mae’r rhaglen yn cynnwys:
- Siaradwyr llawn
- Siaradwyr gwadd – yn y Brif Neuadd ac mewn dau ystafell ymneilltuo
- Cyfleoedd rhwydweithio
- Arddangosfa o bosteri academaidd.
- Cadeirir y gynhadledd gan Gadeirydd grŵp rhanddeiliaid IGGC.
Cynhadledd IGGC 2026
Mae cofrestru ar gyfer y Gynhadledd AR AGOR!
Bydd y Gynhadledd unwaith eto yn cael ei chynnal mewn fformat hybrid, gyda’r digwyddiad wyneb yn wyneb yn cael ei gynnal ym Mhafiliwn Maldwyn, Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys, LD2 3SY.
10 ac 11 Tachwedd 2026
Byw’n Dda yng Nghymru Wledig
Gweithio i wella gofal iechyd a lles ein poblogaeth wledig.

Cynhadleddau Cynt
Rhaglen 2025
Rhaglen 2024
Rhaglen 2023
Rhaglen 2022
Rhaglen 2021
Rhaglen 2020
Rhaglen 2019
Rhaglen 2018
Rhaglen 2017