Ym mis Ionawr 2014, comisiynodd Llywodraeth Cymru Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru i archwilio’r opsiynau ar gyfer darparu gwasanaethau gofal iechyd o ansawdd uchel a chynaliadwy yng Nghanolbarth Cymru. Roedd anghenion gwahanol cymunedau gwledig a heriau traws-ffin y rhanbarth hwn yn awgrymu bod angen adolygu’r systemau iechyd a gofal cymdeithasol presennol. Ym mis Hydref 2014, cyhoeddwyd yr Astudiaeth Gofal Iechyd yng Nghanolbarth Cymru, a gynhaliwyd gan yr Athro Marcus Longley, ac a wnaeth ddeuddeg argymhelliad.
Y ddeuddegfed argymhelliad, a’r olaf, yn yr astudiaeth oedd y dylai’r tair Bwrdd Iechyd sy’n gwasanaethu ardal Canolbarth Cymru, ar y cyd â’r prifysgolion lleol a phartneriaid eraill, ddatblygu a chefnogi “canolfan ragoriaeth ym maes gofal iechyd gwledig”. Y bwriad ar gyfer y ganolfan hon oedd iddi ganolbwyntio ar “ymchwil, datblygu a lledaenu tystiolaeth ym maes ymchwil gwasanaethau iechyd sy’n mynd i’r afael â heriau penodol Canolbarth Cymru”. Nodwyd bod gan ganolfan o’r fath botensial mawr i gyflawni gwaith sy’n berthnasol ar lefel ryngwladol.
Felly, lansiwyd y Ganolfan Rhagoriaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gwledig (CfERH) yn ffurfiol gan yr Athro Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ar 24 Mawrth 2016; yn ddiweddarach, ym mis Mawrth 2017, cafodd ei hailenwi’n “Iechyd a Gofal Gwledig Cymru”.
Mae Iechyd a Gofal Gwledig Cymru (IGGC) yn cael ei gynnal ar hyn o bryd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gyda swyddfeydd yn Aberystwyth. Anna Prytherch yw Pennaeth IGGC, ac mae Michelle Symes a Mari Lewis yn Swyddogion Ymchwil a Datblygu IGGC.
Cadeirir Bwrdd Rheoli IGGC a Grŵp Llywio IGGC gan Keith Jones.