Mae portffolio ymchwil Iechyd a Gofal Gwledig Cymru yn un organig a fydd yn newid gydag amser wrth i flychau ymchwil ac anghenion y sector ddod i’r amlwg.
Yn ogystal, bydd y wefan yn cynnwys storfa o gyhoeddiadau ymchwil ac erthyglau diddorol ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gwledig.
Prosiectau Ymchwil RHCW Cyfredol:
Dementia Gyfeillgar Cheredigion: Adolygiad Cwmpasu
Am fwy o fanylion, cliciwch yma: Dementia Gyfeillgar Cheredigion: Adolygiad Cwmpasu
Darpariaeth Fferylliaeth Canolbarth Cymru
Am fwy o fanylion, cliciwch yma: Darpariaeth Fferylliaeth Canolbarth Cymru
Dentistry Provision and Services across Mid Wales
Click here for more details : Dentistry Provision and Services across Mid Wales
Gwerthusiad Macmillan o Brofiad Canser mewn Ardaloedd Gwledig
Amy fwy o fanylion, cliciwch yma: Gwerthusiad MacMillan o Brofiad o Canser mewn Ardaloedd Gwledig
Cymunedau Cynaliadwy
Am fwy o fanylion, cliciwch yma: Cymundeau Cynaliadwy
Adolygiad a chynllun gweithredu ar gyfer darpariaeth Meddygaeth Teulu / Gofal Sylfaenol yn y Canolbarth
Am fwy o fanylion, cliciwch yma: Adolygaid a chynllun ar gyfer darpariaeth Meddygaeth Teulu / Gofal Sylfaenol yn y Canolbarth
Llwybrau Lles
Am fwy o fanylion, cliciwch yma: Llwybrau Lles
Ysbytai Cymunedol
Am fwy o fanylion, cliciwch yma: Ysbytai Cymunedol
Prosectiau Ymchwil Blaenorol IGGC
Ar Dy Feic
Am fwy o fanylion, cliciwch yma: Ar dy Feic
Recriwtio a Chadw Gweithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Proffesiynol yng Nghymru Wledig
Am fwy o fanylion, cliciwch yma: Recriwtio a Chadw Gweithwyr Iechyd a Gofal Proffesiynol
- Canfod cwmpas y ddarpariaeth addysg, hyfforddiant ac ymchwil gyfredol yng Nghymru fel sy’n berthnasol i iechyd a gofal cymdeithasol gwledig
- Nodi’r sgiliau sydd eu hangen ar y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol i weithio’n effeithiol mewn ardaloedd gwledig
Canfod cwmpas darpariaeth sgiliau gyfredol gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol mewn ardaloedd gwledig
Addysg, Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus Gweithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Proffesiynol mewn Ardaloedd Gwledig
Bydd y maes ymchwil eang hwn yn ceisio:
- Canfod cwmpas y ddarpariaeth addysg, hyfforddiant ac ymchwil gyfredol yng Nghymru fel sy’n berthnasol i iechyd a gofal cymdeithasol gwledig
- Nodi’r sgiliau sydd eu hangen ar y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol i weithio’n effeithiol mewn ardaloedd gwledig
- Canfod cwmpas darpariaeth sgiliau gyfredol gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol mewn ardaloedd gwledig
- Canfod bylchau yn y ddarpariaeth sgiliau / gweithlu gyfredol a nodi hyfforddiant / camau gweithredu sydd eu hangen i gau’r bylchau
- Ymchwilio i dueddiadau newydd ym maes datblygu’r gweithlu ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sy’n gweithio mewn ardaloedd gwledig
Datblygu dogfen arfer gorau ar addysg, hyfforddiant a DPP ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol sy’n gweithio mewn ardaloedd gwledig
Heriau’r Gweithlu Nyrsio yn Ardaloedd Gwledig Gwledydd Datblygedig
I rai darparwyr iechyd mewn gwledydd datblygedig, mae sicrhau gweithlu nyrsio digonol yn cael ei lesteirio gan y ddaearyddiaeth wledig, gyda phrinder staff cronig, ynghyd ag anawsterau recriwtio a chadw staff mewn ardaloedd gwledig, yn cynnig heriau sylweddol i’w gallu i sicrhau gofal o ansawdd i gleifion.
Mae Iechyd a Gofal Gwledig Cymru yn cyd-ariannu myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth i gynnal ymchwil ar yr heriau gweithlu sy’n wynebu nyrsys mewn ardaloedd gwledig. Mae’r ymchwil wedi’i rhannu’n dri maes astudio:
Bydd astudiaeth 1 yn pennu a oes cysylltiad rhwng ble mae nyrsys yn gweithio a ble cawsant eu magu a ble gwnaethant eu hyfforddiant nyrsio.
Bydd astudiaeth 2 yn archwilio safbwyntiau ar y rhwystrau a’r ffactorau hwyluso sy’n wynebu nyrsio gwledig yn y Canolbarth.
Bydd astudiaeth 3 yn adeiladu ar ganfyddiadau blaenorol er mwyn datblygu dealltwriaeth ddyfnach o’r materion a nodwyd yn astudiaethau 1 a 2.
Bydd ymchwiliad i’r heriau recriwtio a chadw sy’n wynebu nyrsys yn ardaloedd gwledig y Canolbarth yn ychwanegu at y sail dystiolaeth i’r drafodaeth am ofal iechyd gwledig ac mae disgwyl y gallai canlyniadau’r astudiaeth hon ddylanwadu ar fodelau cyflenwi staff ar y llwyfan rhyngwladol.
Os ydych chi’n cynnal ymchwil, neu’n gwybod am ymchwil sydd eisoes wedi’i chynnal, a allai fod o ddiddordeb i’r ganolfan, cysylltwch ag Anna Prytherch, Rheolwr Prosiect RHCW.