Mis Ebrill yw Mis Ymwybyddiaeth Canser y Coluddyn ac mae’n gyfle da i rannu gwybodaeth am sgrinio’r coluddyn.

Gallwch helpu i gefnogi’r ymgyrch drwy wneud y canlynol:

Ymweld â gwefan Sgrinio Coluddion Cymru a rhannu’r taflenni ac adnoddau Hawdd eu Deall sgrinio’r coluddyn gyda defnyddwyr eich gwasanaeth.
Rhannu adnoddau Sgrinio Coluddion Cymru ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol ac yn eich cylchlythyrau:Fideos Iaith Arwyddion Prydain Animeiddiad Sgrinio’r Coluddyn yn esbonio sut i wneud y prawf,Adnoddau sgrinio’r coluddyn dwyieithog Erthygl olygyddol Sgrinio Coluddion Cymru Cymraeg a Saesneg
Gall rhannu eich profiad personol o gael prawf sgrinio’r coluddyn helpu unigolion eraill sy’n ystyried a fyddant yn manteisio ar eu cynnig i gael eu sgrinio. Gallwch fynd i’r tudalennau Adborth ar wefan Sgrinio Coluddion Cymru neu gysylltu â’r Tîm Ymgysylltu â Sgrinio i rannu eich profiad. 
Archebu ein cardiau-z maint poced i’w defnyddio mewn digwyddiadau ac i gefnogi sgyrsiau sgrinio yn eich cymuned. E-bost: ymgysylltu.sgrinio@wales.nhs.ukRhowch wybod i ni os ydych wedi defnyddio ein hadnoddau a sut wnaethoch chi gefnogi Mis Ymwybyddiaeth Canser y Coluddyn.

Hoffai Tîm Ymgysylltu â Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru ddiolch i chi am eich cefnogaeth barhaus.

Skip to content