Gweminar yr Haf – 16fed o Orffenaf 2024
Cynhelir Gweminar nesaf IGGC ar ddydd Mawrth 16fed o Orffenaf 2024 rhwng 10am a 12 hanner dydd, gyda’r cyflwyniadau canlynol:
Cyflwyniad 1: Gwirfoddoli ar gyfer canlyniadau iechyd a gofal – Dr Fiona Liddell, Arweinydd Helpforce Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru – ysgrifennwyd a chyhoeddwyd papur o’r enw “Gwerthoedd a gwerth gwirfoddoli – ein hased cudd” ar gyfer Comisiwn Bevan yn 2022. Yn ystod y sesiwn byddwn yn amlinellu cysyniadau ac argymhellion allweddol o’r papur hwn gan gynnwys, er enghraifft, yr hyn a olygwn wrth wirfoddoli, sut rydym yn asesu ei werth a’i effaith a lle gall gwirfoddoli chwarae rhan werthfawr yn ein system iechyd a gofal yng Nghymru.
Cyflwyniad 2: Gwella Gwydnwch Cadwyn Gyflenwi GIG Cymru gyda Seilwaith Drone – John Goudie, Prif Swyddog Gweithredol, SLiNK-TECH Ltd (partner prosiect ar Future Flight Challenge UKRI) – mae SLiNK-TECH Ltd. (ST) wedi derbyn cyllid gan Future Flight Challenge UKRI, mewn partneriaeth â’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, i archwilio’r angen ac ymarferoldeb system gyflenwi sy’n seiliedig ar dronau yng Nghymru, i gefnogi cadwyni cyflenwi GIG Cymru.
Mae ST yn gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Awyrofod Eryri a wedi bod yn siarad â sefydliadau o fewn GIG Cymru i gael mewnwelediad ynghylch sut y gellid gwella cadwyni cyflenwi i leddfu pwysau a sicrhau gwell mynediad i ofal iechyd i bawb. Mae dwysedd poblogaeth isel Cymru, rhwydwaith ffyrdd gwledig, tywydd a daearyddiaeth yn peri heriau i logisteg tir. Ymhellach, mae hyn yn trosi’n anghydraddoldebau iechyd rhwng pobl sy’n byw yng nghefn gwlad Cymru a’r canolfannau trefol.
Agenda:
10:00yb Croesa a Chyflwyniadau
10.15yb Gwirfoddoli ar gyfer canlyniadau iechyd a gofal
10.45yb C&A / Mentimeter / Egwyl
11.00yb Gwella Gwydnwch Cadwyn Gyflenwi GIG Cymru gyda Seilwaith Drone
11.30yb C&A / Mentimeter
11.45yb Sylwadau i gloi / UFA
Mae’r Weminar yn rhad ac am ddim i’w fynychu ond bydd angen i chi gofrestru eich lle trwy lenwi’r ffurflen archebu isod: