Llyfrgell Genedlaethol Cymru

11am – 3:30pm ar 19 a 20 Mai 2026

Beth yw’r digwyddiad?

Bydd y digwyddiad deuddydd, dan ofal Amgueddfa Cymru, yn gyfle i ddathlu, rhannu a dysgu gan sefydliadau diwylliannol a threftadaeth sy’n gweithio ledled y wlad i wella iechyd a lles. Bydd Diwrnod 1 yn canolbwyntio ar waith sy’n cael ei wneud gyda phobl sy’n cael eu heffeithio gan ddementia ac ar eu cyfer nhw, a bydd Diwrnod 2 yn edrych ar waith ehangach sy’n cwmpasu iechyd a lles.

Ar gyfer pwy mae’r digwyddiad?

Ymunwch â ni fel gweithiwr proffesiynol treftadaeth/diwylliant, neu sefydliad, grŵp neu unigolyn â diddordeb.
Mae archebu lle yn hanfodol. I archebu lle, e-bostiwch mims@museumwales.ac.uk neu ffoniwch 029 2057 3418.

I gael rhagor o wybodaeth, neu i drafod unrhyw bryderon sydd gennych ynglŷn ag ymuno â ni, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion uchod.

Skip to content