Datblygu’r Gweithlu a Datblygiad Proffesiynol

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yw cyflogwr mwyaf Cymru. Mae’n cynnig ystod eang o gyfleoedd cyffrous a heriol i bobl sy’n angerddol am wneud gwahaniaeth. Mae mwy na 200 o yrfaoedd i ddewis ohonynt yn y GIG, gyda llawer mwy yn y sector gofal (fel arfer, mae cyflogaeth y sector gofal trwy’r awdurdod lleol). Beth bynnag yw eich diddordebau, sgiliau neu gymwysterau, bydd swyddi a gyrfaoedd addas ar gael i chi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Gweithio Yng Nghanolbarth Cymru

P’un ai ydych am fod yn weithiwr cymorth gofal iechyd neu os ydych yn ymgynghorydd profiadol yn chwilio am eich her nesaf, mae’r Canolbarth yn lle gwych i fyw a gweithio, gyda llawer o gyfleoedd datblygu gyrfa a DPP sy’n cael eu hategu gan amgylchedd byw hardd.

Gyrfaoedd ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngheredigion, Powys a de Gwynedd